Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffeithio fel ag i roi dwfr yn gyffredinol. Nid oedd y dyffryn isaf yr ochr ogleddol eto yn llwyddianus, am fod eu camlas yn rhy uchel, hyny yw, nid oedd yn ddigon dwfn an rai milldiroedd o'i chychwyniad o'r afon.

Dyfodiad y Parch. M. D. Jones ar Parch. D. Rees, Capel Mawr, Mon, i'r lle.—

Yn Ebrill 1882, ymwelwyd a ni gan sylfaenydd y Wladfa, sef y Parchedig a'r Prifathraw M. D. Jones, Bala, ac yn ei ganlyn ei gyfaill fyddlon, y Parch. D. Rees, Capel Mawr, Mon. Yr oedd y Gwladfawyr, ychydig flynyddoedd cyn hyn, wedi gwneud tysteb fechan iddo, sef oddeutu £300, ond nid ydoedd wedi'r cwbl ond swm bychan iawn o'r hyn oedd ddyledus iddo er sylfaeniad y Wladfa. Y mae yn wir mai ychydig o'u cydmaru a phoblogaeth y Wladfa y pryd hwnw oedd yn ddyledwyr cyfreithiol i'r Hybarch Athraw, eto yr oedd pob un oedd wedi llwyddo ar ei dyddyn yn y Wladfa yn ddyledus foesol iddo am ei lwyddiant, am mai trwy ei arian ef y cafwyd y lle, ac y gosodwyd y fintai gyntaf arno, er cael hawl ar y dyffryn heb dalu dim am dano. Yn wir, y minteioedd a ddilynodd y fintai gyntaf a gafodd y fantais, am iddynt gael y lle wedi ei gychwyn, a'i ddwyn mewn rhan i gymundeb a'r byd trwy naw mlynedd o galedi ac unigedd, ac hefyd cawsant hwy brofiad y fintai gyntaf i gychwyn. Y mae yn wir nad oed y fintai gyntaf wedi gwneud rhyw lawer o gynydd mewn ystyr gadarnhaol, ond eto yr oedd ei methiantau yn fantais i'r rhai a'i dilynodd fel profiad. Yr ydym yn credu felly y dylai y sefydliad, fel sefydliad mewn rhyw ffordd neu gilydd, naill ai mewn tanysgrifiadau gwirfoddol neu ynte mewn fordd o dreth, ddigolledu y boneddwr hunanaberthol uchod. Cafodd Mr. Jones a Mr. Rees dderbyniad tywysogaidd yn ein mysg, a buont yn ein plith am tua thri mis—weithiau yn teithio y wlad, a phrydiau eraill yn cynal cyfarfodydd pregethu yma a thraw ar hyd y sefydliad, a gadawsant argraff ac adgof ddymunol iawn ar eu holau yn mhob man fel dau foneddwr o waith Cristionogaeth, yn gystal a natur.

Gadewch i ni droi yn ol eto at yr amaethu. Er fod y sefydlwyr wedi cael amryw flynyddoedd llwyddianus er 1874, eto yr oedd methiantau, fel y gwelir, yn cymeryd lle yn awr ac eilwaith fel ag i ladd yni a gweithgarwch