Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefydlog. Yr oedd yr ansicrwydd am gynhauaf; yn atal yr amaethwr i roi gwaith na chostau ar ei dyddyn yn gynar yn y flwyddyn, rhag na chodai yr afon y flwyddyn hono. Er mwyn i'r anghyfarwydd ddeall, y mae yn angenrheidiol i ni sylwi fod trin y tir yn y Wladfa, a'i adael yn segur, yn golled, yn enwedig pan fyddo yn ei gyflwr cynhenid. Y mae y tir mor fraenarol, fel os ca ei aredig, ac heb ei hau a chodi cnwd arno, y mae yn agored i'r gwynt chwythu ymaith fodfeddi o'i wyneb, fel mai y ffordd i atal hyn yw ei adael yn ei gyflwr cynhenid, neu ynte dyfu sofl arno. Yn ngwyneb hyn, ni byddai calon gan neb i wneud dim ar ei dir nes gweled yn gyntaf fod yr afon yn codi, ac felly yn rhoi gobaith iddo am gynhauaf. Ni byddai calon gan neb ychwaith i gyflogi gwas neu weithiwr, rhag y byddai raid iddo ei gadw yn segur, a thalu cyflog iddo, ac yntau ei hun heb enill dim. Felly, os byddai yr afon yn ddiweddar yn codi, a'r tir heb ei drin, ní byddai amser gan y tyddynwr i ddarparu rhyw lawer. Yr oedd yr ansicrwydd hwn yn effeithio hefyd ar fasnach y lle. Nid oedd calon gan y masnachwr ddod ag offerynau a pheirianau amaethyddol i'r lle, rhag feallai y byddent ar ei law am flwyddyn neu ddwy, a'r un modd gyda llawer o nwyddau ereill. Nid oedd y sefydlwyr mwyaf egniol ac anturiaethus yn foddlawn ar y sefyllfa ansicr hon, a llawer oedd y siarad a'r cynllunio pa fodd i gael pethau yn fwy sefydlog chyson. Yr oedd pobl y dyffryn isaf erbyn hyn, o leiaf pobl yr ochr Ddeheuol, wedi colli pob ymddiried mewn argaeon; ac yn gweld fod camlas y dyffryn uchaf yn gweithio yn dda, daethant hwythau i feddwl am wneud camlas. Cadwyd nifer o gyfarfodydd yn nghylch y peth. Yr oedd rhai am i'r ddau ddyffryn—yr uchaf a'r isaf— gael pob un ei gamlas ei hun, am fod peth anhawsder i gael y gamlas trwy y lle creigiog oedd rhwng y ddau ddyffryn, ac hefyd yn gweled fod cyrchu dwfr o ben uchaf y dyffryn uchaf i ddyfrhau yr isaf yn wastraff ar lafur. Yr oedd ereill yn dadleu yn dyn iawn dros i'r ddau ddyffryn uno, er mwyn bod yn fwy o allu i wneud y gwaith, ac felly ei gael yn gynt i ben ar gyfer y ddau ddyffryn. Wedi cryn drin a dadrys y peth, unwyd i wneud un gamlas. Dechreuwyd hi yn nechreu 1883, and gan i'r afon godi yn ffafriol y flwyddyn hon fel ag i ni gael