cychwyniad Rheilfordd Vawr y De (Great Southern Railway) sydd erbyn hyn yn tynu at ddwy vil o villdiroedd. Ymganghena y fyrdd haiarn yn awr i bob cyveiriad i'r gogledd hyd at Salta a Jujuy: i'r gorllewin, hyd gribau yr Andes a chydiad wrth Chili: i'r de hyd at Bahia Blanca ar y Werydd, a chaingc o honi gyda'r Rio Negro i gyfiniau eraill yr Andes.
Y rheilfyrdd hyn a'r dociau a'r bangciau (mwyav) gynrychiolant y cyvala Prydeinig yn benav yn y wlad. Ond y mae'r ddyled wladol hevyd yn echwynion gavwyd o dro i dro gan arianwyr Prydeinig ac Iuddewig.
Er mai gwlad wastad yw cyfiniau y ddinas, mae ei maes—drevi yn hardd a phrydverth, wrth vod hinsawdd a gweryd y lle mor gynyrchus. Tŷv aeron a grawnwin a frwythau o bob math yn rhwydd ac yn rhad—yn wir mae'r peaches yno yn y vath gyv lawnder nes peri y vasnach helaeth sydd arnynt wedi eu tynio i varchnad Ewrob. A masnach vawr arall oddiyno yw y cig rhewedig i Ewrob: a'r daoedd byw (devaid a bustych) i Rio Janeiro a Llundain. Mae hyn yn gryn newid o'r hen vasnach gynt mewn crwyn a gwlan a gwer, a chyrn ac esgyrn a lludw. Gwneir eto gryn vasnach yn y pethau hyny, ond gan vod eu gwerth allvorol wedi codi gymaint, nid ydynt nwyddau rhad vel cynt, pan gefid anivail wrth werth ei groen yn unig.
Dinas LA PLATA—ryw 40 milldir o'r briv—ddinas― grewyd i vod yn briv—drev talaeth Buenos Ayres, pan gytunodd yr holl daleithau ar yr hen ddinas vawr i vod yn briv, ac yn seddle y Llywodraeth Genedlaethol, yn y 7—degau [gwel t.d. 14.] Ä chreadigaeth oedd hono. Gwariwyd miliwnau o ddoleri i adeiladu seneddau, llysoedd, ysgolion, dociau, a holl berthynion llywodraeth daleithol—yr oll ar raddva eang a rhwysgvawr, mewn man nad oedd dŷ na thwlc cyn hyny [gerllaw y man y glaniasai y Saeson yn 1807 i gymeryd Buenos Ayres—ond sydd erbyn hyn yn ddinas vawr, aml ei thrigolion.
Oud hwyrach mai y ddinas bwysicav, wedi Buenos Ayres, ydyw ROSARIO—ar yr avon Paraná. Gan vod agerlongau mawrion o dramor yn gallu gwneud hono yn borthladd, a'i bod yn gychwyniad i'r amrywiol reilfyrdd i'r gogledd a'r gorllewin, daeth yn ddinas vasnachol o'r radd vlaenav. Heblaw hyny, y mae o vewn cyraedd gwladvaoedd toreithiog Sante Fe: a chyda hyny heb vod nepell o eisteddle llywodraeth daleithol y dalaeth hono: a dim ond lled yr avon rhyngddi a threv Paraná gyverbyn. Yn y ciprys beunydd sydd yn digwydd rhwng sevydlwyr cymysg y gwladvaoedd amaethol yn y tueddau hyny â'r Ilywodraeth daleithol sydd yn tynu'r llinynau yn Sante Fe, mae pwysigrwydd masnachol Rosario yn mantoli pethau yn rhyvedd iawn yno.