Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ni lwyddaf yr un ffordd," cbr ef gan hanner tagu,- os gwisgaf fy esgidiau newydd, ni allaf byth fynd gyda'r eneth. Os gwisgaf fy hen rai, ni chaf hi byth i ddyfod gyda mi. Ac ni ddaeth lwc, chwaith, gyda'r losin du."

Tarawodd ei droed yn y llawr, caeodd ei ddwrn, a daliodd ef tua'r awyr, ac i bob cyfeiriad yn ei dro, fel pedfai am herio pawb, ond na wyddai ar bwy i ddechreu. "O hyn allan," ebr ef, "yr wyf am gyhoeddi rhyfel- iwsion yn erbyn y neb a wnaeth y pennill a roddodd fod i mi, ac am gael pawb a allaf i ymuno â mi. Rhyfeliwsion amdani, a dim arall."