Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

X

Fe'i gwelais yn y Bala
Newydd werthu'i gwlân;
A phibell o dybaco,
A thanllwyth mawr o dân.


A welsoch chi Jini, mewn difri?
Ond ydi hi'n grand aneiri ?-
Hetan grand, a bwcwl a band,
Ond ydi hi'n grand mewn difri?


Yr oedd yn ddiwrnod poeth arswydus, a phawb am y diocaf, ond Dafydd. Yr oedd ef yn wyllt am ddechreu ar yr hyn a alwai'n rhyfeliwsion. Safai'r Coblar Coch â'i freichiau ar benwar y buarth, gan edrych ar y wlad, ac yr oedd yr awyr o'i flaen yn crynu dan y gwres. Nid oedd cymaint ag un pâr o esgidiau yn y cwt yn aros ei drwsio. Gwisgai pawb y pethau salaf a fedrent, gan nad oedd unrhyw berygl gwlychu traed. Yn cysgu ym mhen draw'r buarth, ag un llygad yn agored, yr oedd Miwriel, a syllai'r Coblar Coch yn gysglyd arni yn awr ac eilwaith.

Toc ymysgydwodd,—

"Rhaid i mi wneuthur rhywbeth am fy nhamaid," ebr ef, "beth am foddi Miwriel?"

Dywedai hyn mor fywiog â phe na bai'r peth erioed wedi gwawrio arno o'r blaen. Eithr gwelodd, wedi meddwl, mai ofer fyddai hynny, gan nad oedd digon o ddwfr yn yr afon i foddi cath ynddo y diwrnod hwnnw.

'Mi gei fyw ychydig eto, Miwriel," ebr ef wrthi'n ddigalon, tan lonyddu. Ac aeth yn ei flaen i bensynnu.