Deffrowyd ef gan sŵn rhywun yn dyfod ar frys gwyllt tuagato. Ac wedi gorffen codi ei ben, ac agor ei lygaid, pwy a welai'n sefyll o'i flaen ond Dafydd.
"A wyt ti am ddyfod ar unwaith?" ebe Dafydd wrtho, heb gymryd trafferth hyd yn oed i esbonio i ble.
"Dyfod i ble, Dafydd bach?" ebr yntau, rhwng cwsg ac effro.
"I ddechreu rhyfeliwsion," ebe Dafydd yn wyllt.
"Rhyfeliwsion, beth yw hwnnw?" ebr yntau.
"Fel hyn," ebe Dafydd, "a ydyw'n deg i'r dynion a wnaeth y penillion a roddodd fod i ni, gael gwneuthur fel y mynnont â ni? Yr wyf i wedi colli geneth dda yn wraig am fod yn rhaid i mi wisgo hen esgidiau yn yr haf. A dacw Miwriel hefyd i'w boddi, a thithau'n methu."
Cyffyrddodd gwaith Dafydd yn sôn am foddi Miwriel fan gwan i'r Coblar Coch, ond gwell oedd ganddo weld Miwriel yn fyw na cheisio'i boddi ar ddiwrnod felly.
Boddi Miwriel?" ebr ef, "nid oes ddigon o ddwfr yn yr afon i foddi cath y dyddiau hyn."
"Nid boddi Miwriel yw rhyfeliwsion," ebe Dafydd yn wyllt, "ti sy'n camddeall fy stori. Ymosod ar y bobl sy'n gyfrifol am ei bywyd hi a ninnau,—y dynion a wnaeth y penillion, dyna yw rhyfeliwsion."
"Campus iawn," ebe'r Coblar Coch yn gysglyd, ond oni chredi fod y tywydd braidd yn boeth i ryfeliwsion, Dafydd bach? Ni synnwn i lawer pe gwelem mai peth chwyslyd iawn yw rhyfeliwsion. A champus fyddai dial ar y bobl a wnaeth y penillion pe na bai ond er mwyn Miwriel. Yr wyf yn dechreu meddwl rywfodd, ar y gwres yma, fy mod yn hoffi'r hen