Teimlai Dafydd fod y rhyfeliwsion yn gweithio'n gampus,—
"Beth am Sion y Foty?" ebr ef, "oni fuasai'n well i ni fynd heibio i'r Foty amdano ef?"
"Campus," ebe'r Coblar Coch, a thuag at y Foty â hwy. Yr oedd Sion wrthi, rhwng byw a marw, yn casglu cerryg mewn cae yn ymyl, ac er iddynt weiddi arno nid atebai mwy na dyn pren. Meddyliodd Dafydd am gynllun arall. Aeth dan y gwrych a gwaeddodd,—
"Pwy a gollodd y trên?"
Neidiodd Sion i fyny fel pedfai wedi ei saethu, a thua'r gwrych ag ef â'i ddyrnau yng nghau. Pan welodd y ddau oedd yno, yr oedd mor llawen nes torri i wylo tros y lle. Dywedodd Dafydd ei stori wrtho.
"Beth yw rhyfeliwsion?" ebe Sion gan ymsythu.
"Dinistrio popeth y medri gael gafael arno am na chei dy ffordd dy hun, ac o dipyn i beth yr wyt yn sicr o ddyfod o hyd i'r pethau iawn," ebe Dafydd. Gwelodd Sion obaith eto am ddal y trên i Lundain trwy'r rhyfeliwsion. Gadawodd i bopeth yn y cae gymryd ei siawns ac aeth gyda'r ddau arall.
"Iawn o beth," ebe Dafydd, "fydd cael gwisgo esgidiau newydd pan fynnaf."
"A medru boddi Miwriel heb golli cwd o liain newydd bob tro trwy fethu, neu gael rhyddid i beidio â'i boddi o gwbl," ebe'r Coblar Coch.
"A dal y trên bob tro," ebe Sion y Foty.
"Yr ydym am ddechreu trwy chwilio am y Ddafad Gorniog," ebe'r Coblar Coch, "ac y mae Dafydd yn dyfod i'm helpu. Ni fynn yr Eneth Deg Benfelen wneuthur dim ag ef yn ei hen esgidiau; ond y mae hen esgidiau, er hynny, yn ardderchog i ddal defaid."