"Ond nid yw'r Ddafad Gorniog yn ddim i mi," ebe Sion y Foty, dan ddechreu llacio.
"Nid pawb trosto'i hun, ond pawb i helpu'i gilydd, yw rhyfeliwsion," ebe Dafydd.
"Ac y mae coeden y wraig sy'n bloeddio Hwrw' ar y ffordd," ebe'r Coblar Coch, "canys trwy Gorwen yr awn i'r Bala."
Tarawodd y Coblar Coch yr hoel ar ei phen wrth ddywedyd hyn, canys berwodd y peth Sion y Foty trwyddo,―
"Ie, dyna'r ffordd yr aeth y sowldiwr â hi. Rhyfeliwsion amdani," ebr ef.
A dyna gychwyn yn wyllt i ddechreu ar y rhyfeliwsion.
Wrth agoshau at y goeden y buasai'r wraig arni gynt yn bloeddio "Hwrw," gwelent rywbeth coch o dani.
"Y Sowldiwr!" ebe'r Coblar Coch dan welwi.
"Tyrd yn dy flaen," ebe Dafydd, "yr ydym ni gyda thi, a chofia mai rhyfeliwsion yw."
Wrth nesu at y milwr edrychai Sion i dop y goeden, a dyna lle'r oedd y wraig yn bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," mewn rhyw sŵn gwahanol i'r cyffredin, a'r milwr yn edrych yn wawdlyd arni. Troai hi ei chefn ato, a methodd Sion, yntau, a'r ddau arall, â gweld ei hwyneb. Trodd y milwr at y Coblar Coch, Sion y Foty, a Dafydd,—
"Beth a wnewch yma?" ebr ef yn flin.
Mynd am y rhyfeliwsion yr ydym," ebe Dafydd.
Rhyfeliwsion, beth yw hwnnw?" ebr yntau.
"Rhyfeliwsion yn dechreu yn y Bala," ebe Dafydd.
'A oes a wnelo â rhyfel?" ebe'r milwr yn eiddgar."
"Os felly, dyma'r dyn amdano."
"Oes," ebe Dafydd.