Pan atebodd Dafydd fel hyn, dechreuodd y milwr golli ei awydd, a gofynnodd yn betrusgar,—
"Yn erbyn pwy?"
"Yn erbyn dafad i ddechreu," ebe Dafydd.
"Dyma'r dyn i ti." ebe'r milwr, ar dân, "y mae gennyf innau gŵyn yn erbyn dafad. Hysiais fy nghi iddi unwaith, a chollais hi."
"Yr ydym wedi clywed mai yn y Bala y mae hi," ebe'r Coblar Coch.
Ac am y Bala â hwy ill pedwar, gan orffwys y nos ym môn y clawdd. Wedi cyrraedd aent trwy'r stryd fel pedfai'n ddyfnder gaeaf, a hwythau'n rhedeg er mwyn cael eu gwres. A holent bawb ar draws ei gilydd am y Ddafad Gorniog.
"O na bai fy nghi gyda mi yn awr," ebe'r milwr, deuai o hyd iddi ar ei union."
"Ymhle y mae dy gi?" ebe Dafydd.
"Ni ddaeth ato'i hun ar ôl ei guro gan ryw gi bach yn y coed, a byth er hynny y mae gennyf gywilydd ohono," ebe'r milwr.
Ni soniodd yr un o'r tri eu bod hwythau yn y coed ar y pryd, ac yr oedd yn amlwg na welodd y milwr mohonynt, neu nad adnabu hwynt.
Wedi chwilio a holi nes deffro tref y Bala trwyddi, er gwaethaf y gwres, dangoswyd iddynt y tŷ yr oedd y Ddafad Gorniog ynddo.
"Afi i mewn yn gyntaf," ebe'r Coblar Coch, "a gwyliwch chwithau rhag iddi ruthro allan. Ac nid arnaf i y bydd y bai oni ddaw hi allan yn gorff."
Aci mewn ag ef, a hwythau'n aros i ddisgwyl. Ymhen eiliad neu ddau gwelent ef yn cael ei gario allan fel marw a'i osod ar y palmant, a rhywun o'r tŷ yn taflu