piseraid o ddwfr dros ei wyneb. Rhuthrasant ato i'w helpu, a dychwelodd ei gludwyr i'r tŷ. Wrth ei weld yn dyfod ato'i hun,—
"Afi i mewn," ebe Dafydd, "y mae pethau fel hyn yn perthyn i ryfeliwsion."
Eithr cyn pen eiliad neu ddau dyma yntau allan yr un fath, a chafodd yntau biseraid o ddwfr tros ei wyneb. Dechreuodd Sion y Foty chwerthin, a'r milwr gilio'n ôl,― "Ni fynnwn ni byth mo'n gorchfygu gan ddafad," ebe Sion yn y man, ac i mewn ag ef. Ymhen eiliad neu ddau gwelai'r milwr yntau'n cael ei gario allan a'i drochi â dwfr. Aeth at y drws, gan ddisgwyl mai'r ddafad a'u tarawai i lawr bob yn un ac un fel y deuent i mewn. Cil—edrychodd i mewn yn ofalus, ond er ei syndod gwelai'r ddafad yn eistedd yn dawel, wedi ei chneifio, a gwerth ei gwlân o dybaco ar y bwrdd yn ei hymyl, ond yr hyn yr oedd hi'n ei fygu, a thanllwyth o dân i hanner y simnai o'i blaen. Ac yr oedd y gwres yn ofnadwy yn y tŷ. A chredodd yntau mai'r peth callaf oedd peidio â mynd i mewn.
Aeth at y tri, a oedd erbyn hyn yn dechreu dyfod atynt eu hunain,—
Ymhle y mae'r Ddafad Gorniog?" ebr ef wrthynt, heb gymryd arno ei fod wedi ei gweld.
"Y mae'r gwres a'r tanllwyth tân yn ddychrynllyd," ebe'r tri ynghyd,—" y mae'n annioddefol."
"Y dyn melltigedig a wnaeth y pennill a wnaeth iddi fedru dygymod â'r tanllwyth tân hyd yn oed ar wres fel hyn," ebe Dafydd. "O! na ddeuwn o hyd iddo, mi a'i tynnwn yn gareiau."
"A minnau mor bell oddicartref hefyd," ebe'r Coblar Coch.