XI
Ifan Bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr,
Ifan yn codi'i goese,
Dweyd bod y dŵr yn oer.
•••••
Sion Huws a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle,
A phan ddihunodd holi wnai,—
Ai Sion wyf i ai nage?
Os Sion wyf i ces golled flin,—
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac onid Sion 'rwy'n fachgen smart,—
Enillais gart yn rhywle."
Bu ymadawiad y milwr yn ormod i Ddafydd am ychydig, yn enwedig wrth wrando ar sisial chwerthin y bobl. A digwyddodd hefyd glywed geiriau'r Coblar Coch a Sion y Foty, yn taflu dwfr oer ar y rhyfeliwsion pan ddylent fod yn fwyaf tanbaid o'i blaid.
Deffrodd hyn ei ddewrder. Trodd atynt yn chwyrn a thraddododd araith iddynt, canys cofiodd yn sydyn fod traddodi araith ddewr i'r milwyr yn rhan o bob rhyfeliwsion iawn,—
"Frodyr," ebe Dafydd yn awdurdodol wrth y ddau, gan gymryd lle'r milwr, "rhoddwch eich hunain yn fy llaw i, ac arweiniaf chwi i fuddugoliaeth. Yr ydych i ddisgwyl bradwr ymhob gwir ryfeliwsion. Bu felly erioed, a bydd felly byth. Awn y ffordd hon." Wrth glywed geiriau mor ddewr ciliodd y bobl o'r ffordd yn syn, ac ymsythodd y Coblar Coch a Sion y Foty. Aethant ar ôl Dafydd, ac ymaith â hwy ill tri, gan ymdeithio fel milwyr. A'r bobl yn eu gwylio mewn braw ac ofn.