Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi mynd o'r golwg,—

"Na ddigalonnwch, y mae diwrnod ar ôl hwn," ebe Dafydd. "Awn i gyd—orffwys heno i fod yn barod am y bore. Peidiwch â thorri eich calonnau, fy ngwŷr, y mae pob gwir ryfeliwsion yn dechreu mewn methiant, a bradwyr yn cilio."

Yr oedd Dafydd, erbyn hyn, wedi dysgu iaith rhyfeliwsion i'r dim. Ac yn wyneb y siarad hwn ni allai'r ddau arall beidio â gweiddi mewn balchter, a thosturio wrth y dynion a wnaethai'r penillion a ddaeth â hwy i fod. Wedi teithio nes dyfod o'r nos, aethant ar flaenau eu traed i ysgubor Nant y Wern am y noson.

Cysgodd Dafydd a'r Coblar Coch ar eu hunion, ond ni allai Sion y Foty gysgu. Meddyliai am y wraig ar dop y goeden yn bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," a daeth rhyw awydd mawr arno am weled ei hwyneb.

Beth pedfai hi'n newynu i farwolaeth heb neb i gario pytatws poethion iddi?" ebe Sion. "Yr oedd y sŵn a wnai yn rhyw sŵn gwag iawn. Y mae'n wir mai troi ei chefn arnaf a wnaeth, ond efallai mai wedi digio wrth y sowldiwr yr oedd. Peth annifyr yw meddwl amdani heb ddim pytatws, ac y mae'n hawdd gweld ei bod wedi blino ar y sowldiwr neu ni buasai wedi troi'n ôl at ei gwaith i dop y goeden. Ac y mae hanes y sowldiwr yn y Bala gennyf i'w adrodd iddi."

Cyfododd yn ddistaw bach ac aeth allan ar flaenau ei draed, gan adael y ddau arall yn cysgu. Aeth i'r ffordd fawr, ac adref ag ef. Yr oedd hi'n haws cerdded dan gysgod nos, a phan dorrai'r wawr fe'i gosododd ei hun i orffwys ychydig. Yna cerdded a gorffwys bob yn ail nes cyrraedd y goeden ar doriad gwawr drennydd. Wrth