ddynesu ati, clywai'r "Hwrw, hwrw, hwrw" yn wannaidd ac yn wag. Pan edrychodd i fyny, dyna lle'r oedd y wraig fel pedfai'n rhy wan i fynd ymlaen. Edrychodd i'w genau, a beth oedd yno yn lle pytaten boeth, ond carreg o'r un ffurf â phytaten. Ac yr oedd y wraig wedi teneuo'n ddychrynllyd. Tynnodd Sion y garreg allan, a chlywodd ei stori. Wedi mynd gyda'r milwr, ebe hi, gwelodd na allai hi fwyta o gwbl ond ar dop coeden, ac na allai fwyta dim ond pytatws. A phan welodd y milwr hi'n teneuo, penderfynodd ei gadael. Daeth â hi'n ôl at y goeden. Gosododd hi arni, a charreg yn ei genau, a deuai yno bob hyn a hyn i'w gwawdio, a dechreu ar y gwaith yr oedd pan ddaeth y tri heibio. Wedi gorffen ei stori gwenodd yn gynnes ar Sion. Toddodd y wên honno ef yn lân, ac ymaith ag ef am bytatws a'u berwi cyn i neb godi yn y Foty, a mynd â hwy iddi. Edrychodd hithau mor annwyl arno pan roddodd un iddi fel y teimlai ef na allai byth adael y goeden honno wedyn. A threuliodd y bore yn edrych arni'n gwenu a bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw" mewn gwahanol nodau. Ac yntau'n disgwyl yno o hyd nes gorffen ohoni'r bytaten, er mwyn bod yn barod i estyn un arall iddi.
Ymhen yr hwyr a'r rhawg gwelai ddau'n dyfod ar hyd y ffordd tuagato. Pwy oeddynt ond Dafydd a'r Coblar Coch.
"Ai yma yr wyt ti?" ebe Dafydd yn chwerw wrtho pan ddaethant ato. "Tyrd yn dy flaen gyda ni i'r rhyfeliwsion mawr."
Crafodd Sion ei ben,—
Rhyfeliwsion beth?" ebr ef, gan geisio cymryd arno, i'r wraig, na wyddai ef ddim am y peth.