Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y rhyfeliwsion mawr i gael y Coblar Coch i fedru boddi'r gath a ——"

"Neu gael fy rhyddhau o geisio'i boddi," sibrydai'r Coblar Coch wrth Ddafydd.

"A'th gael dithau i fedru dal y trên i Lundain," ebe Dafydd wrth Sion, heb gymryd sylw o'r Coblar Coch. Crafodd Sion ei ben wedyn,—

"Erbyn meddwl," ebr ef, "nid yw o lawer o bwys gennyf a af byth i Lundain, oherwydd (a gostyngodd ei lais yn y fan yma) y mae'r rhyfeliwsion wedi rhoddi'r peth i mi yr oedd arnaf ei eisiau,—cael gwared o'r sowldiwr oddiwrth y wraig yma,—ac er colli'r trên caf aros yma tan fore trannoeth."

Safodd Dafydd am ennyd yn rhythu arno. Yna trodd at y Coblar Coch,—

"Fy ffyddloniaid," ebr ef tan annerch y Coblar Coch, "wele fradwr arall, eithr na thorrwn ein calonnau. Awn ymlaen."

Ac ymlaen â hwy gan adael Sion yno i borthi'r wraig â phytatws poethion, a hithau'n bloeddio "Hwrw, hwrw, hwrw," a gwenu arno, a dal pen stori iddo, a phesgi'n gyflym.

Safodd Dafydd yn sydyn ar ganol y ffordd. Cymerodd ddarn o bapur o'i boced, ysgrifennodd arno ac yna llosgodd ef. Yna edrychodd i gyfeiriad Sion a gwelai ef yn estyn pytaten i'r wraig. Brathodd ei dafod ac aeth yn ei flaen gyda'r Coblar Coch.

Erbyn hyn yr oedd y fyddin yn fach iawn, eithr ni thorrodd Dafydd mo'i galon, a safai ar y ffordd bob hyn a hyn i orchymyn i'r Coblar Coch wneuthur y gwahanol ystumiau milwrol yr oedd wedi eu dysgu gan y milwr wrth lyn y Bala. Wrth fynd ymlaen meddyliai am yr