Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eneth Deg Benfelen, ac am ei waith yn gorfod gwisgo hen esgidiau trwy'r haf, a berwai ei waed. "Awn ymlaen, fy milwyr," ebr ef yn awr ac eilwaith tros y lle, heb annerch neb mwy na'i gilydd. A'r Coblar Coch yn ymdeithio ymlaen wrth ei ochr mor ddewr a phedfai'n mynd i'w grogi.

Cyn bo hir iawn daethant i ymyl tŷ'r Coblar Coch. "Dewrder yn awr, fy milwyr," ebe Dafydd wrth sylwi â chongl ei lygad fod y Coblar Coch braidd yn sigledig. "Nid oes arnaf eisiau dim ond taflu fy ngolwg i'r buarth i edrych a yw Miwriel yno," ebe'r Coblar Coch,— "rywfodd, wrth feddwl bod y rhyfeliwsion yn debyg o lwyddo, ac y medraf ei boddi cyn bo hir, yr wyf yn rhyw ddechreu mynd yn hoff iawn ohoni. Dim ond sefyll am eiliad i gael un cipolwg arni."

Aeth ar flaenau ei draed at y wal, a Dafydd gydag ef, a safodd yno am ennyd i edrych trosti. Dyna ddyrnod syfrdanol i'r Coblar Coch ar ei war, a phwy a welai Dafydd o'r tu ôl iddo yn gafael yn dynn yn ei wegil ond ei wraig.

"Tyrd i'r tŷ y funud yma," ebe hi, gan ei lusgo fel cerpyn i mewn. "Sut yr wyt yn meddwl y caf i damaid a thithau'n crwydro'r wlad fel hyn a'th ben yn y gwynt?"

A dyna gau'r drws ar ôl y Coblar Coch, wedi ei wthio i'r tŷ, ac ar ddannedd Dafydd. A'r peth olaf a welodd Dafydd oedd bod pob llygedyn o ysbryd rhyfeliwsion wedi diffodd o lygad y Coblar Coch cyn diflannu ohono i'r tŷ. Ac ni welodd Dafydd y Coblar Coch wedyn y diwrnod hwnnw.

Safodd â'i bwysau ar y wal am ennyd yn methu â gwybod beth i'w wneuthur. Yna penderfynodd, pedfai