Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pawb yn fradwyr ac o dan bawennau eu gwragedd, y byddai ef farw yn y rhyfeliwsion cyn troi cefn arno. Wedi unwaith ddechreu, nid oedd am droi'n ôl, costied a gostiai. Ar ôl cerdded yn hir meddyliodd y carai eistedd am ychydig ar ochr y ffordd i orffwys ac ail drefnu'r rhyfeliwsion. Toc, gwelai rywun yn dyfod yn wyllt tuag ato. A phwy ydoedd ond Ifan Bach. Safodd Ifan pan ddaeth at Ddafydd.

"Beth sy'n bod?" ebr ef, wrth weld nad oedd gan Ddafydd ddim i'w ddywedyd wrtho.

"Eisiau gweithio rhyfeliwsion sydd arnaf," ebe Dafydd.

"Eisiau rhywbeth a all lusgo car dwfr sydd arnaf i," ebr Ifan Bach.

Eistedd i lawr er mwyn i ni ddeall ein gilydd," ebe Dafydd. Ac eisteddodd Ifan Bach i lawr.

"Beth sy'n bod? A pham yr edrychi mor wyllt?" ebe Dafydd," nid yw pobl yn edrych mor wyllt â hynyna ond mewn rhyfeliwsion."

"Am goncro'r môr yr wyf," ebr Ifan â'i lygaid yn fflamio.

"Concro'r môr?" ebe Dafydd yn ddyryslyd.

"Ie, concro'r môr," ebr Ifan yn bendant. "Dyma'r stori. Ar ôl dyfod yn ôl o Lundain yr oeddwn wedi cael blas ar fynd am dro, a phenderfynais fynd am dro i lan y môr, ac euthum gyda'm tad,—nid yw Sion y Foty'n ddim gwerth i fynd gyda thi i unman. Wedi bod yno ychydig euthum iddo un bore i olchi fy nhraed, ac yr oedd y dwfr mor oer fel y bu raid i mi godi fy nghoesau a'm gwneuthur fy hun yn wawd i'r bobl a oedd yn edrych arnaf oddiar y lan. Ac er ceisio droeon gadw fy nhraed i lawr fel hyn yr oedd hi bob dydd. Ond yr wyf yn benderfynol o goncro'r môr."