Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Os oes ysbryd concro arnat," ebe Dafydd, â'i lygaid yn gloywi," yr wyt yn un iawn am weithio rhyfeliwsion." Ac esboniodd ei gynllun iddo.

"Nid oes arnaf eisiau rhyfeliwsion," ebr Ifan Bach, "ni bydd ei angen, oherwydd yr wyf am goncro'r môr."

"Sut?" ebe Dafydd.

"Trwy ferwi ei ddwfr," ebr Ifan. "Y mae car dwfr ar fuarth y Bryniau, ac nid oes arnaf ond eisiau benthyg ceffylau, yna af â'r car dwfr i'r môr a llenwaf ef, ac af ag ef adref i'w ferwi, ac af iddo i ymdrochi wedi iddo glaearu, ac ni chaiff neb byth ddywedyd wedyn bod Ifan Bach wedi codi'i goesau yn nwfr y môr am fod y dwfr yn oer.

"Dyna'r ysbryd, beth bynnag," ebe Dafydd, "deuaf gyda thi. Erbyn meddwl, y mae'r Coblar Coch a Sion y Foty yn rhy hen i ddim fel hyn. Nyni ill dau, sy'n ieuanc, a fedr lwyddo."

A chychwynasant ymaith. Ni wyddent i ble i gychwyn am fenthyg ceffylau, canys prin y caent rai yn unman i daith mor bell. Meddyliasant yn wyneb hyn mai gwell, efallai, oedd aros tan drannoeth er mwyn ystyried pethau'n fanylach. Wedi aros yn hir ymgomio, daeth y nos, ac aethant i chwilio am rywle y medrent orffwys ynddo dros y nos. Wedi crwydro'n hir, tybiasant glywed chwyrnu ysgafn, ac fel yr aent ymlaen tua llidiard y mynydd, a'r chwyrnu'n cryfhau, beth a welent ar ochr y ffordd ym min y mynydd ond cert a dau geffyl wrthi, a dyn yn cysgu ynddi.

'Dyma geffylau," ebe Dafydd.

'Ond y mae dyn yn y gert," ebr Ifan Bach.

Nid yw peth mor fach â hynny i fod ar ein ffordd pan fo concro'r môr neu ryfeliwsion ar droed," ebe