Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aethant yn eu holau ar flaenau eu traed, gollyngasant y ceffylau'n rhydd a'u hanfon ar hyd y ffordd i gyfeiriad Sion Huws.

"Yn awr am goncro'r môr," ebr Ifan, "bydd y dwfr wedi berwi pan awn yn ôl."

Ni ddywedodd Dafydd ryw lawer,—ysbryd Ifan Bach yn unig a hoffai, canys gwyddai y byddai concro'r môr yn rhwystro Ifan i ymuno ag ef yn y rhyfeliwsion.

Gobeithiai y byddai'r tân wedi diffodd, neu'r berwedydd wedi hollti, neu rywbeth priodol arall.

Wrth ddynesu at gartref Ifan gwelent y tân yn fflamio'n braf, ac aeth calon Dafydd i'w esgidiau. Ac wedi mynd i ymyl, gwelai fod y berwedydd yn gyfan. Cododd Ifan y caead dan hanner dawnsio, ond ni ddeuai dim ager o gwbl o'r berwedydd. Rhoddodd ei law yn y dwfr, ond yr oedd yn oer fel rhew. "Nid ydyw wedi cynhesu dim," ebr ef.

"Ac nid ydyw'n debyg o wneuthur chwaith," ebe Dafydd, â goleuni ar y peth yn dechreu gwawrio arno.

"Pam?" ebr Ifan yn ddyryslyd. "Y mae'r pennill yn dy erbyn," ebr ef, "dywed mai oer yw dwfr y môr i fod bob amser pan fyddi di'n ymhela ag ef."

"Beth a wnawn, ynteu?" ebr Ifan, a'i lygaid â chleddyfau mellt yn dyfod ohonynt.

"Dim ond rhyfeliwsion," ebe Dafydd, gan lawenychu trwyddo, "rhyfeliwsion yn erbyn y dynion a wnaeth y penillion a ddaeth â ni i fod. Ni waeth i ni heb ymosod ar fân betheuach fel y Ddafad Gorniog. Rhaid mynd at galon y drwg, ac ymroi ati am gynllun i ymosod ar y dynion hynny eu hunain."