"Dim mwy na dim llai na dinistrio am byth gynllun y dynion a roddodd fod i ni trwy wneuthur y penillion," ebe Dafydd.
Sut y medrwn ddyfod o hyd iddynt?—y maent allan o'n cyrraedd," ebr Ifan.
"Nid yw eu cynllun o'n cyrraedd," ebe Dafydd. "Os ydyw'r Coblar Coch a Sion y Foty a'r sowldiwr am ymostwng yn wasaidd i'r dynion a wnaeth y penillion a ddaeth â ni i fod, nid felly Dafydd. Oni chaiff Dafydd yr Eneth Deg Benfelen y mae am ddinistrio cynllun y dyn a wnaeth y pennill, er i hynny gostio'i fywyd iddo. Ac ni chaf yr eneth o gwbl tra gwisgaf hen esgidiau."
"Beth yw dy gynllun?" ebr Ifan.
"Dinistrio'r penillion eu hunain," ebe Dafydd.
"Y mae hynny'r un peth â'n dinistrio gyda'r penillion, canys rhan o'r penillion ydym. Pan ddinistrir y penillion, diffoddwn ill dau allan o fod fel diffodd cannwyll, ond byddwn wedi concro'r dynion a wnaeth y penillion. Byddwn wedi eu rhwystro hwy i gael gwneuthur fel y mynnont."
Sut y dinistrir y penillion?" ebr Ifan.
Dyma'r cynllun," ebe Dafydd. "Gwn sut i sgrifennu, a gwyddost tithau. Ni buasai na'r Coblar Coch na Sion y Foty yn ddim mantais i'r cynllun am na tedrant ysgrifennu. Dos i chwilio am bapur ac ysgrifennaf i ar damaid ohono y pennill a ddaeth â mi i fod; ysgrifenna dithau ar damaid arall ohono y pennill a ddaeth â thithau i fod, ac yna'u llosgi. Ni wna'r tro i'r naill ysgrifennu pennill y llall, neu gallem ddinistrio'r Coblar Coch a Sion y Foty a phawb trwy ysgrifennu eu penillion a'u llosgi. Ac ni all hynny fod. Pawb ei bennill ei hun, a phawb ei fywyd ei hun, yw hi. A