Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedaf wrthyt sut y gwybûm. Yn fy ngwylltineb wedi i Sion y Foty droi ei gefn arnaf, gwawriodd y cynllun arnaf, ac ychydig cyn cyfarfod â thi ysgrifennais ei bennill ar damaid o bapur a oedd gennyf yn fy mhoced, a llosgais ef, ond ni ddigwyddodd dim iddo. Ac wrth feddwl gwelais na buasai'n deg i neb fod â hawl ganddo i ddinistrio unrhyw fywyd ond ei fywyd ei hun." Dechreuodd Ifan, yntau, betruso,—

"Y mae gennyf i ddau bennill," ebr ef, "un difyr ac un cas. Un difyr yw'r un amdanaf yn mynd i Lundain, ac nid oes arnaf eisiau dinistrio hwnnw, canys y mae'n ei gwneuthur yn werth i mi fyw. Ond am y llall, gan na fedraf ferwi dwfr y môr gwell gennyf farw nag ufuddhau iddo."

Rhaid i ti losgi'r ddau neu beidio â llosgi'r un," ebe Dafydd, "neu rhyw hanner byw a hanner dyn fyddi, —hanner dy fywyd a erys yn weddill, canys pennill Llundain yn unig a'th geidw yn fyw. Y mae'r dyn a wnaeth y penillion wedi dy wneuthur yn ddau ddarn." "Gwell marw yn llwyr na hanner byw," ebr Ifan yn ddewr, ac yr wyf yn fodlon i'th gynllun."

Aeth Ifan i chwilio am bapur. Wedi ei gael aeth y ddau i'r ysgubor. Buont wrthi'n hir yn ysgrifennu, a'u dwylo'n crynu er eu gwaethaf.

"Dyma fy mhennill i," ebe Dafydd o'r diwedd, "yn barod i'r fflamau." A dangosodd ef i Ifan. "A dyma fy mhenillion innau," ebr Ifan, gan eu dangos i Ddafydd.

Awn i'r gegin wedi i bawb fynd i'w gwelyau," ebr Ifan, "a llosgwn hwy yno."

Rhyfedd iawn nad oes neb o'r tŷ yn pryderu yn dy gylch," ebe Dafydd.