Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Af i'r tŷ i fynd i'm gwely, a chodaf wedi i bawb dawelu," ebr Ifan.

Ac felly y gwnaed. Arhosodd Dafydd yn yr ysgubor nes dyfod o'r nos, ac i bawb ond Ifan fynd i gysgu. Yna aeth ar flaenau ei draed at y tŷ ac agorwyd iddo gan Ifan. Aethant at y tân cyn ddistawed â llygod a rhoddi ychydig goed ar y marwor i'w fywiogi. Safasant yno'n hir yn edrych ar ei gilydd ac ar y tân bob yn ail. Ochneidiodd Dafydd ac yna ochneidiodd Ifan. "Wel, Ifan Bach," ebe Dafydd, "y mae'n rhaid gwneuthur y gwaith neu fod yn salach na ni'n hunain. Ysgwyd law."

Estynnodd Ifan ei law, a buont yn ysgwyd dwylo'n hir, gan edrych ym myw llygaid ei gilydd.

Gollyngasant ddwylo a mynd at y tân, a dal y papurau uwch ei ben yn barod i'w gollwng iddo.

"Ysgwyd law unwaith eto, Ifan Bach," ebe Dafydd, cyn ffarwelio am byth. Cyn gynted ag y dinistrir y penillion a ddaeth â ni i fod diffoddwn fel diffodd cannwyll."

A bu ysgwyd llaw hir a dwys wedyn.

"Y mae bywyd yn ddifyr iawn wedi iddo ddyfod i'r pen," ebr Ifan.

Beth, Ifan, a wyt yn dechreu siglo?" ebe Dafydd. "Paid, er fy mwyn i, canys y mae'n ddigon anodd wynebu'r gwaethaf er cael pob cymorth gennyt."

Na, nid wyf yn siglo," ebr Ifan, yn ddewr, a'r papur yn crynu yn ei law.

"Y mae hi'n mynd yn hwyr," ebe Dafydd, gan sychu'r chwys oddiar ei dalcen, "ni wiw oedi, neu awn yn rhy galon feddal i wneuthur y gwaith. A bydd un