cysur i ni er marw,—byddwn wedi concro'r dynion a wnaeth y penillion a ddaeth â ni i fod."
"Sut y medrwn deimlo cysur a ninnau wedi marw?" ebr Ifan.
Aeth Dafydd yn fud.
Codi anawsterau yr wyt ti, Ifan," ebr ef yn y man. Cysur neu beidio, byddwn wedi concro." Daliodd ei bapur wedyn uwchben y tân. eto."
Ffarwel, Ifan Bach," ebr ef, "ysgwyd law Aethant i ganol y llawr ac ysgwyd dwylo'n hir, a gwenu'n feddal ar ei gilydd, yna camu'n sydyn at y grat, a chyda'i gilydd lluchio'r penillion i'r tân. Fflamiodd y papurau, a diflannu,—ac ni ddigwyddodd dim oll.
Edrychodd Dafydd yn hurt ar Ifan, ac edrychodd Ifan yn hurt arno yntau.
"Y mae'r penillion wedi eu dinistrio, Dafydd," ebr Ifan, "a ninnau'n fyw. Beth sy'n bod?"
Cododd Dafydd ei ddwylo a gwasgu'i ben, yna'u rhoddi ar ysgwyddau Ifan, ac edrych yn hir ac yn wylofus i'w lygaid,—
"Ifan Bach annwyl," ebr ef, â'i lais yn crynu dan ei ofid, "yr ydym yn an—farwol."
Beth yw hynny?" ebr Ifan mewn braw.
Ni allwn farw er ceisio," ebr ef, "ni allwn farw, na allwn yn wir."
"Methu â marw?" ebr Ifan yn ddyryslyd, "beth a wnawn?"
Edrychasant yn syn a hurt ar ei gilydd yn hir. Yna aethant allan. A heb ddywedyd dim wrth ei gilydd, aethant tua'r Cae Pella i'r distawrwydd i feddwl, ac