Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eistedd yno yng nghysgod y gwrych. Ac yr oedd y lleuad lawn ar yr awyr.

"Ni waeth beth a wnawn, y mae'r dynion a wnaeth y penillion yn cael y goreu arnom bob tro," ebe Dafydd yn ddigalon. Ac nid oedd gan Ifan ddim i'w ddywedyd, canys yr oedd ef wedi methu ddwywaith,—methu â berwi dwfr y môr, a methu â marw, er dinistrio'r pennill. Ac yno yr arhosodd y ddau yn pensynnu. Toc, daeth chwerthin a chanu sydyn ar yr awel tuagatynt. Dychrynodd y ddau a neidio ar eu traed. Beth a welent draw y tu arall i'r gwrych ond nifer o blant a merched yng ngoleu'r lleuad yn dawnsio a chwarae o amgylch llyn dwfr, a chanu eu goreu gyda'r dawnsio a'r chwarae.

"Ust," ebe Dafydd, "beth a ganant wrth ddawnsio a chwarae?"

Yna'r ddau'n gwrando. Dyna lle y chwaraeai'r plant ac y dawnsiai'r merched, fel Tylwyth Teg, a chanu tros y wlad. Aeth Dafydd ac Ifan Bach yn nes atynt gyda'r clawdd. A deallodd y ddau y geiriau. Y pennill cyntaf a ddeallasant oedd,—

'Roedd Sion, hen was y Foty,
Am fyned gyda'r trên,
'Roedd am gael gweled Llundain
Cyn myned yn rhy hen;
Ond er bod Sion yn smala,
Rhaid imi ddweyd y gwir,
Fe gysgodd Sion y Foty
Ryw hanner awr ry hir.


Yna dal i ddawnsio a chwerthin a chwarae, a chanu,—

Y Coblar Coch o Ruddlan
A aeth i foddi'r gath,
Mewn cwd o liain newydd
Nad oedd o damaid gwaeth;