Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cwd aeth gyda'r afon,
A'r gath a ddaeth i'r lan,
Y Coblar Coch o Ruddlan,—
Ond oedd o'n foddwr gwan?


Gwrando, Ifan, gwrando am dy fywyd," ebe

Dafydd. Yna clywent y canu a'r cwbl yn parhau,—

Ifan Bach a minne,
Yn mynd i Lundain glanme;
Mae'r nos yn hir, a'r ffordd ymhell,
Gwell i ni aros gartre.


Ac yna,—

Ifan Bach a minne
Yn mynd i ddŵr y môr,
Ifan yn codi'i goese,
Dweyd bod y dŵr yn oer.


A chyn i'r ddau wrandawr gael eu gwynt atynt dyna glywed canu,—

Bachgen da ydi Dafydd,
Yn gwisgo sgidiau newydd,
Cadw'r hen rai dan yr ha,—
Bachgen da ydi Dafydd.


Ac ar ôl hynny,—

Mae geneth dêg, benfelen,
Yn byw ym Mhen y Graig:
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno i mi'n wraig:
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.


Cododd Dafydd yn sydyn a phrysurodd allan o glyw, a dilynwyd ef gan Ifan. Wedi dyfod o hyd iddo chwarddodd Ifan yn chwerw,—

"A meddwl," ebr ef, "ein bod yn tybio y gallem ddinistrio'r penillion a ddaeth â ni i fod trwy eu hysgrifennu ar bapur, a llosgi hwnnw, a'r penillion yn fyw yng nghalonnau'r plant, a ninnau'n fyw yno gyda hwy.