Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sut y gallem farw, a ninnau'n fyw yng nghalonnau'r plant? Ac ni ddinistrir y penillion na ninnau tra bo'r plant yn eu medru a'u canu. Beth a wnawn?"

"Na wneir," ebe Dafydd, â rhyw oleuni newydd yn ei lygaid. "Ac y maent yn eu mwynhau hefyd."

A chyn i Ifan gael ateb safodd Dafydd ger ei fron, a gafael yn ei law,—

Ifan," ebr ef, "yr wyf yn fodlon i fod yn an—farwol er gwaethaf y blinder, a gwisgo hen esgidiau am byth, a cholli'r Eneth Deg Benfelen yn y fargen, os daw canu am hynny â hyfrydwch i blant. Y mae'r hen fyd yma, wedi'r cwbl, yn bur galed wrth blant. Meddwl am y gwersi sydd ganddynt i'w dysgu, a'r cosbi sydd arnynt am beidio. Ni chlywais ddim melysach erioed na'r canu a'r chwarae a'r chwerthin hwn."

Meddyliodd Ifan ychydig, a gwrando ar y sŵn ysgafn yn y pellter, ac ebr ef yn y man,—

"A minnau hefyd yn fodlon i godi fy nghoesau am byth am fod y dwfr yn oer, tra bo'r plant yn dysgu'r pennill amdanaf, ac yn cael cymorth i'r fath chwerthin wrth ei adrodd. Dafydd, y mae fy mywyd bellach yn nwylo'r plant."

"Nid yw mor galed arnat ti," ebe Dafydd, "gelli fynd i Lundain weithiau, er mwyn tipyn o newid."

"Paid â dechreu edliw," ebr Ifan, yn dân ar unwaith, "gelli dithau wisgo esgidiau newydd yn y gaeaf, a mynd am dro gyda'r Eneth Deg Benfelen, ond i ti fynd yn y gaeaf pan fo'r esgidiau newydd am dy draed, a'i chael yn wraig rywbryd."

Gwgodd Dafydd. Nid oedd yn fodlon i Ifan awgrymu ei fod ef yn cael unrhyw les ei hun o'i aberth er mwyn y plant.