"Ciniaw' neu beidio," ebe'r Coblar Coch, onid oedd arnaf innau eisiau 'ciniaw'? Ac y mae digon o lygod yn y tŷ, ac yn y cwt yma, yn bwyta lledr, yn ginio i ti am flwyddyn. Ond sut y disgwyli fedru dal llygod, a thithau ac Awenydd allan trwy'r nos bob nos yn rhygnu canu carolau? Dyna'r dolur ar dy gynffon di, gwyddost mai Siwsanna, mam y llygod yma, a fwytaodd flaen dy gynffon liw dydd goleu, a thithau'n cysgu am iti fod allan trwy'r nos yn canu carolau; a Marged a Jemima a Chadwaladr, plant Siwsanna, yn chwerthin am dy ben o flaen dy drwyn, wrth edrych ar eu mam yn cnoi dy gynffon."
Nid oedd gan Fiwriel ddim i'w wneuthur ond edrych ym myw llygad y Coblar Coch, â dagrau newydd yn ei llygaid, a sibrwd yn araf,—
Miawriel, Ci-N-I-A-W."
"Mi a roddaf iti ginio," ebe'r Coblar Coch, wedi gwylltio, a rhuthro iddi. Gafaelodd yng nghanol ei chefn, ac yr oedd hi yn ei boced cyn iddi wybod ei bod wedi symud oddiar lawr y cwt.
Eisteddodd y Coblar Coch ar y fainc drwsio esgidiau i feddwl beth i'w wneuthur â'r gath, a hithau yn ei boced yn ei fyddaru trwy weiddi,—
"M-I-A-W-riel, Ci-N-I-A-W, Ci-N-I-A-W."
"Beth a wnaf à hi?" ebe'r Coblar Coch wrtho'i hun. "Taw, er mwyn i mi feddwl," ebr ef wrth Fiwriel, gan daro'i boced.
Yn hongian wrth hoelen ar y wal yn y cwt yr oedd cwd o liain newydd sbon a wnaeth ei wraig i'r Coblar Coch. Ei waith ef oedd trwsio esgidiau trwy'r wyth— nos, a mynd â hwy'n ôl ar ei gefn, o dŷ i dŷ, ar nos Sadwrn. Yr oedd wedi gwneuthur hyn am flynyddoedd