Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dorlan, ac yn chwerthin, onid oedd yn sâl, ond y Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân. Chwarddai gymaint nes methu â phori o gwbl, ym min yr afon ymysg y cerryg mân. Yr oedd un peth yn gas ganddi,— cael ei galw yn Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân. Gwyddai'r Coblar Coch hynny.

"O," ebr ef, "yr hen Ddafad Gorniog Ac Arni Bwys O Wlân sydd yna."

Digiodd y Ddafad Gorniog.

"Nage," ebe hi, "nid y Ddafad Gorniog yw fy enw."

"Beth yw dy enw?" ebe'r Coblar Coch rhwng digio a chwerthin.

Meri," ebe hi, "ond 'Mê' y mae pobl neis yn fy ngalw, neu yn Saesneg, 'May,'—Em, E, Wai." Meri yn enw ar ddafad?" ebe'r Coblar Coch tan chwerthin yn iawn, "neu, i fod yn neis, 'Me.'" A bowiodd iddi hyd y ddaear.

Eithr buasai'n well iddo beidio â digio'r Ddafad Gorniog. Pedfai ef heb ei digio hi, ni buasai'r hanes hwn wedi digwydd.

"Esgidiau ar fore Gwener!" ebe'r Ddafad Gorniog, pan gafodd ei gwynt ati, a dechreu chwerthin wedyn, er gwaethaf ei dicter am i'r Coblar Coch ei galw yn Ddafad Gorniog. Yn wir, chwarddodd yn fwy er mwyn herian arno.

"Nage," ebe'r Coblar Coch yn wyllt, gan droi ei gefn arni, a mynd tua'r lle dyfnaf yn yr afon.

"Wel, wel," ebe'r Ddafad Gorniog, "y mae'n dyrysu, mynd i luchio esgidiau i'r afon, a hynny ar fore Gwener. Ac nid ydyw'n edrych fel pedfai wedi meddwi chwaith."