"I ble'r wyt ti'n mynd, Huw?" ebe hi mewn braw mawr.
Go-go-go-go," ebe'r Coblar Coch, gan fympio ymlaen.
Rhoddodd ei wraig sgrech tros y wlad, a rhuthrodd ymaith tan weiddi,—
"Bobl annwyl, y mae Huw wedi troi'n Sais, ac yn gyrru ceffyl ras ar garlam tan weiddi 'Go' arno." Eithr dywedyd "Go-go-go-gofyn iddo fo," rhwng y bympiau yr oedd y Coblar Coch, pedfai hi wedi aros i wrando.
Huw oedd enw'r Coblar Coch, eithr ni alwai neb ef ar yr enw hwnnw ond ei wraig.
Yr oedd un cysur i'r Coblar Coch,—meddyliai y deuai o hyd i'r Ddafad Gorniog yn fuan. Ac wrth droi heibio i gongl am ryw ffordd fynydd, beth a welai ef yn ochr y clawdd, â rhywbeth fel mwgwd am ei hwyneb, ond dafad.
"Dyna'r Ddafad Gorniog, yn sicr ddigon, a'r cwd o liain newydd am ei hwyneb," ebr ef. "Saf, yr Ebol Melyn, saf, fy ngwas i."
Ond ni safai'r Ebol Melyn. Mynd ar garlam gwyllt heibio i'r Ddafad Gorniog a wnaeth ef.
Saf, yr Ebol Melyn, saf," ebe'r Coblar Coch yn grynedig, ac awydd lladd yn dechreu ymgripio drosto, wrth feddwl am y Ddafad Gorniog.
"Ni fedraf sefyll," ebe'r Ebol Melyn dan garlamu. "Pam?" ebe'r Coblar Coch dan hanner wylo.
Ni fedraf sefyll nes cyrraedd y Sgubor Wen," ebe'r Ebol Melyn.
"Pam?" ebe'r Coblar Coch, wedi dechreu wylo'n iawn.