carlamu march, a pha farch ydoedd ond ei farch ef ei hun, a farchogai i ryfel, ac achub cam y gweiniaid? Erbyn gwrando, clywai lais rhywun mewn poen, a phwy a allai fod ond rhyw ferch ieuanc wedi ei rhwymo mewn coedwig gan farchog drwg?
Cynhyddai'r llais, a rhoddodd yntau ei ysbardunau yn ochrau'r march. Eithr, er ei syndod, mynd yn wannach, wannach, yr oedd sŵn traed y march, ac yntau'n ceisio'i gyflymu. Ac er syndod mwy iddo, er bod ei farch yn amlwg yn paratoi i sefyll, deuai'r sŵn merch ieuanc mewn poen yn nes ato o hyd, a chryfhau bob gafael. Fel y gwyddoch, yr oedd merched ieuainc mewn poen yn aros am gael eu gwared gan farchogion dewr yn bethau cyffredin yn yr hen fyd.
Fe'i teimlodd y Coblar Coch ei hun wedyn. "Ie, marchog ydwyf, yn teithio'r wlad, i achub cam merched ieuainc prydferth mewn poen," ebr ef, "a dyma'r hen farch yma wedi sefyll. Ac eto, daw cri'r ferch ieuanc yn nes ac yn gryfach o hyd."
Rhoddodd ysbardun arall i'r march, ond i'w droed ei hun yr aeth yr ysbardun. A deffrodd i'w weld ei hun yn y ffos, a blaen draenen mawr wedi mynd drwy ei esgid i'w droed.
Ond o ble y deuai'r llais yn galw arno?