III
Mae gen i iar a cheiliog,
A brynais ar ddydd Iau;
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau.
•••••
Roedd gen i iar yn gori
Ar ben y Penmaen Mawr;
Mi eis i droed yr Wyddfa
I alw arni i lawr.
Fe hedodd, ac fe hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,—
Good morning, John, How d'ye?
PAN welodd y Coblar Coch ymhle yr oedd, penderfynodd beidio â deffro. Mynnai gau ei lygaid yn dynn, a cheisio mynd yn ôl i'r cyflwr y gwelai ef ei hun ynddo cyn dyfod ato'i hun,—yn farchog dewr mewn gwisg o ddur. A cheisiai wrando am y llais wedyn, er mwyn gwneuthur y peth yn wir,—
"Dim ond i mi glywed y llais eto," ebr ef, "a daw popeth yn ôl, a minnau'n farchog dewr eto."
A gwrandawodd, a daeth y llais drachefn. Yr oedd yn rhywle yn ei ymyl. Gwrandawodd wedyn, er gwybod beth a ddywedai'r ferch ieuanc oedd mewn poen, ac o ble y deuai'r llais. Dychmygodd unwaith mai o'r ffos odditano y deuai, a gwrandawodd wedyn yn fwy astud nag erioed. Ie, o rywle odditano y deuai, wedi'r cwbl. Eithr beth a ddywedai? Gwrando wedyn, a chlywed llais odditano'n sibrwd yn glir, ond yn wannaidd a thoredig, ac atal dywedyd arno,—
"Dyna ti wedi torri fy ŵy i 'n ysgyrion mân."