Bu raid i'r Coblar Coch neidio ar ei draed, bod yn farchog neu beidio. Gwelodd mai teimlo tywarchen. a wnaeth ei law pan feddyliai mai gwisg o ddur oer a deimlai. A beth oedd odditano ond iar hanner marw.
Daeth niwl dros ei lygaid. "Ble'r ydwyf? ble'r ydwyf?" ebr ef.
"Y-y-yn y ff-ff-os," ebe'r iar yn wannaidd. Ble y mae'r ŵy a dorrais?" ebe'r Coblar Coch yn ddyryslyd.
"Y-y tu-u mew-ewn i-i m-m-i," ebe'r iar.
Eisteddodd y Coblar Coch ar y clawdd, ac edrychodd yn ddigalon ar yr iar. Cododd yr iar ar ei thraed yn araf, ysgydwodd ei phlu, ac edrychodd yn brudd arno yntau.
"Ai ti a'm tarawodd yn fy wyneb?" ebe'r Coblar Coch.
Pryd?" ebe'r iar
"Pan syrthiais oddiar yr Ebol Melyn," ebe'r Coblar Coch.
"Ie," ebe'r iar.
"I ble yr oeddit ti'n mynd?" ebe'r Coblar Coch.
"Adref, i ddodwy, i gae'r Wern," ebe'r iar, a thipyn o atal`arni.
"Pwy wyt ti, felly?" ebr ef.
"Yr Iar Sy'n Dodwy Wy Bob Dydd," ebe'r iar.
"Mi glywais lawer o sôn amdanat; beth yw dy enw?"ebr ef.
"Gwen-en-en-en-ON-wy," ebe'r iar. Cododd ei llais ar yr "on" a gostyngodd ef wedyn ar yr " ŵy."
"Dywedi dy enw fel iar yn canu newydd ddodwy," ebr ef.