tuag adref. Gwaeddodd y Coblar Coch ar ei hôl, ond yr oedd hi'n rhy bell i'w glywed.
"Beth a wnaf yn awr?" ebe'r Coblar Coch tan hanner crio, "pe bawn wedi mynd ymlaen gyda'r Ebol Melyn efallai y cawn sychu fy nillad yn y Sgubor Wen, ond yr wyf yn sicr o gael annwyd yn awr, ac efallai marw. Bydd un cysur yn hynny, fodd bynnag, gan i mi fethu â boddi Miwriel,—ni bydd gyda mi yn y byd arall i fynd â'm cig dydd Sul oddiarnaf."
Dechreuodd disian yn y fan, onid oedd yn chwys diferol.
"Gw-gwgw-gwgw," ebe llais dieithr dros y wlad o'r tu ôl iddo, yn y cae am y gwrych ag ef.
"Wel, yn wir," ebe'r Coblar Coch, "y mae holl ieir y wlad o'm hamgylch heddyw. Pwy wyt ti, tybed?"
"Paid â'm galw i'n iar," ebe ceiliog cribgoch, a edrychai'n ffyrnig arno trwy adwy yn y gwrych.
"Popeth yn iawn," ebe'r Coblar Coch, "pwy wyt ti, geiliog braf?"
Ymsythodd ac ymledodd y ceiliog. "Myfi yw'r Ceiliog Sy'n Dodwy Dau," ebr ef.
"Beth a feddyli wrth hynny?" ebe'r Coblar Coch.
"Dyma un dwl," ebe'r ceiliog, " oni wyddost am yr iar sy'n dodwy ŵy bob dydd a'r ceiliog sy'n dodwy dau?
Myfi yw'r gwrbonheddig hwnnw," ebr ef yn chwydd i gyd.
"A oes gennyt ti enw, fel dy wraig?" ebe'r Coblar Coch.
"Pa un o'm gwragedd a feddyli?" ebe'r ceiliog.
"Gwenonwy Wy Bob Dydd," ebe'r Coblar Coch.
"Dyna'r wraig oreu sydd gennyf," ebe'r ceiliog.
"Oes, y mae gennyf enw,—Diawchleision."