Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y Coblar Coch erbyn hyn yn ddyryslyd iawn,—

"Beth yw dy waith?" ebr ef yn ddigalon, canys ni welodd neb erioed yn cymryd y ffordd hon i ddiolch am gymwynas o'r blaen.

Fy ngwaith?" ebe'r wraig, " sefyll ar dop y goeden, debyg iawn, yn bloeddio 'Hwrw, hwrw, hwrw,' â thaten boeth yng nghorn fy ngwddw, a hynny ar y ffordd i Gorwen."

"'Dawn i byth o'r fan yma!" ebe'r Coblar Coch, "a'r ffordd i Gorwen ydyw hon hefyd! Ond beth oedd yr 'wchw' mawr yn dy sŵn pan feddyliem dy fod yn tagu?

"Newid lle y bytaten o un ochr i'r llall yn fy nghorn gwddw," ebe'r wraig yn flin. "A dyma ti wedi mynd â'm bywioliaeth oddiarnaf."

Oni elli gael bywioliaeth arall ?" ebe'r Coblar Coch.

'Ni allaf, debyg iawn," ebe'r wraig, â'i llygaid yn fflamio.

Pam?" ebe'r Coblar Coch yn wannaidd. Am fod y pennill yn dywedyd hynny," ebe'r wraig.

"Pa bennill?" ebe'r Coblar Coch.

"Y pennill amdanaf ar y ffordd i Gorwen, ar dop y goeden, yn bloeddio 'Hwrw, hwrw, hwrw,' â thaten boeth yng nghorn fy ngwddw," ebe'r wraig. Edrychodd y Coblar Coch o'i amgylch fel dyn mewn breuddwyd.

"Beth sydd a wnelo'r pennill a'th fywioliaeth,?" ebr ef.

"Wel, dyma'r dyn dylaf a welais erioed," ebe'r wraig, "y dyn a wnaeth y pennill a luniodd fy mywyd,