angenrheidiol er mwyn cael odl, ac y gallai'r dyn roddi rhywbeth arall i mewn pe mynnai.
Torrodd y milwr i mewn ar hyn, wedi bod yn llygadu'r wraig am yn hir, a gweled ei bod yn ferch deg iawn,—
Wel, yr hen gariad," ebr ef wrthi, "dyna'r pam na thynnais i di oddiar y goeden, am na fedrwn i ddim. Y mae fy mhennill i 'n dywedyd amdanaf mai sowldiwr ydwyf, ac unig waith sowldiwr yw ymladd, ac nid dringo coed i achub merched, ac ni allaf wneuthur dim ond mynd wrth y pennill. A dyma'r Coblar Coch yma, pedfai hwn yn gwneuthur ei waith yn lle busnesa ym musnes pobl eraill, buasai'n well arno. Ond gan dy fod di wedi dyfod i lawr oddiar y goeden, ac nad oes obaith iti gael pytaten boeth arall am yn hir ar y tywydd oer yma, ni waeth iti ddyfod gyda mi am dro."
Tarawodd syniad i ben y Coblar Coch, wrth weld ei aberth er mwyn y wraig yn mynd i gyd yn ofer.—
'Nid Sowldiwr Ymladd ydyw ef yn ôl y pennill," ebr ef, "ond Sowldiwr Hysio Ci,— fe hysiodd iddi gi' ebe'r pennill."
Edrychodd y wraig yn syn ar y milwr, fel pedfai'n ei ameu yntau.
"Ie," ebe'r milwr, "ond pan fo'r Ddafad Gorniog yn y golwg y bydd hynny." A gwelodd y Coblar Coch ei fod wedi ei orchfygu unwaith yn rhagor.
Ni ddywedodd y wraig ddim, ond syllodd ar y milwr,—ar ei gôt goch, ac ar ei gap, a gwenodd arno. Rhoddodd ei braich yn ei fraich, ac i ffwrdd â'r ddau, gan adael y Coblar Coch ar ganol y ffordd yn rhynnu, a phenderfynu na wnai byth wedyn gymwynas â gwraig.