A daliai'r dyn i chwerthin, a chwerthin, a chwerthin, yn ei wyneb, onid oedd yn chwys diferol, er ei bod yn ganol y gaeaf.
Pam yr wyt yn chwerthin, ddyn?" ebe'r Coblar Coch wrtho o'r diwedd.
"Digalon iawn ydwyf," ebe'r dyn, gan feichio chwerthin wedyn.
"Ffordd ddigrif o fod yn ddigalon yw hon, onide?" ebe'r Coblar Coch yn ddyryslyd.
"Dyma'r unig ffordd o fod yn ddigalon sy'n gweddu i mi," ebe'r dyn.
"Pam hynny?" ebe'r Coblar Coch.
"Am mai dyn ysmala ydwyf," ebe'r dyn, "ac y mae'r ysmaldod, rywfodd, yn rhan ohonof na allaf ei daflu heibio."
"Beth, nid tydi yw Sion y Foty?" ebe'r Coblar Coch.
Dyma'r dyn i ti y mwyaf digalon yn y byd yma," ebe'r dyn, a dechreu arni i chwerthin wedyn yn waeth nag erioed.
Yr oedd chwerthin Sion y Foty yn heintus, a dechreuodd pawb a phopeth chwerthin, a chwerthin, nes methu â'u cynnal eu hunain. Yr oedd y Coblar Coch yn chwerthin, wedi iddo ddyfod dros ei fraw cyntaf, a rhyw asyn oedd mewn cae yn ymyl yn chwerthin, a chi oedd yn mynd heibio ar y pryd yn chwerthin, a hwyaden oedd yn pigo yn y ffos yn chwerthin. A dyna lle safai'r cwbl, rhwng tywyll a goleu, yn chwerthin fel ffyliaid na wyddai neb am beth. Toc, gwellhaodd Sion y Foty dipyn, ac aeth pawb ond y Coblar Coch ac yntau i'w ffordd ei hun. Trodd Sion at y Coblar Coch,—
"Pam yr wyt ti'n chwerthin?" ebr ef wrtho.