Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel, am dy fod di'n chwerthin," ebe'r Coblar Coch rhwng pyffiadau.

A wyt ti'n ddigalon?" ebe Sion y Foty.

"Ydwyf, ond ni ddangosaf hynny trwy chwerthin tra parhaf yn gall," ebe'r Coblar Coch. "'Does gennyf ddim help. Dyna fy natur," ebe Sion y Foty. Ac aeth ymlaen i esbonio mai dyn ysmala oedd ef wrth natur, ac mai ffordd dyn ysmala hyd yn oed i ddangos ei ofid oedd trwy chwerthin.

"Beth yw dy ofid?" ebe'r Coblar Coch.

"Y wraig yna," ebe Sion y Foty, tan sychu ei chwys, "gwyddost mai ei galwedigaeth hi oedd sefyll ar dop y goeden ar y ffordd i Gorwen, yn bloeddio 'Hwrw, hwrw, hwrw,' â phytaten boeth yng nghorn ei gwddw. A gwyddost yn dda na wna pytaten, mwy na rhywbeth arall, ddim dal yn boeth am byth."

"Gwn," ebe'r Coblar Coch.

"Beth a feddyli a wnai'r wraig â'r pytatws fel yr oerent?" ebe Sion y Foty.

"Ni wn i," ebe'r Coblar Coch.

"Wel, eu bwyta, debyg iawn," ebe Sion y Foty. "Dyma'r ffordd yr oedd hi'n ei chynnal ei hun rhag newynu ar dop y goeden."

Ni feddyliodd y Coblar Coch am hyn o'r blaen, ac edrychodd yn hurt ar Sion y Foty.

Ac ymhle y meddyli y caffai hi bytatws poethion newydd yn lle'r hen rai a fwyteid ganddi?" ebe Sion. Ni feddyliais i erioed am y peth," ebe'r Coblar Coch.

"Naddo, y mae'n debyg; y mae gormod o bobl ddifeddwl yn y byd yma," ebe Sion y Foty dan wenu. Ac yr oedd y Coblar Coch wedi ei siomi'n fawr. Meddyliai, wrth weld Sion y Foty yn dyfod ato dan chwerthin,