acw, ond pe baet yn mynd i'r tŷ yn gyntaf, lleddfai hynny dipyn arni. Canys ni ddengys ei thymer i ddyn dieithr, yn enwedig os oes gobaith i'w gael yn gwsmer." A phenderfynwyd bod Sion yn mynd i'r tŷ yn gyntaf. Clywsai'r wraig sŵn troed yn dyfod i fyny'r buarth, ac yr oedd wedi ei pharatoi ei hun at dderbyn ei phriod yn briodol Yr oedd y tŷ mewn tywyllwch, canys ni chredai hi, na'i phriod o ran hynny, mewn difetha canhwyllau heb angen.
Rhoddodd y Coblar Coch ei law'n betrusgar ar y glicied. Agorodd y drws yn araf, a gwthiodd Sion y Foty yn ddistaw o'i flaen i mewn. mewn. Cyn gynted ag y rhoddodd Sion ei droed dros yr hiniog, dyna iddo glewtan ar ochr ei ben nes ei fod yn gweld sêr, a chlewtan ar yr ochr arall, a chlewtan wedyn, ac wedyn, ac wedyn.
Cymer honyna, a honyna, a honyna," ebe'r wraig rhwng y clowtiau, "ai dyma'r amser yr wyt ti'n dyfod adref ar ôl gwagsymera a chwarae fiŵl trwy'r dydd? Cymer honyna, a honyna, a honyna." A gwrandawai'r Coblar Coch yn astud a chrynedig, â'i droed ar yr hiniog, a'i law ar y glicied, ar ei wraig wedi camgymryd Sion y Foty amdano ef, ac yn rhoddi derbyniad iddo y tybiai hi mai i'w gŵr y rhoddai ef.
Dan ei boenau dechreuodd Siôn y Foty chwerthin, a chwerthin, a chwerthin. Dychrynodd gwraig y Coblar Coch am ei bywyd. Ni chlywsai erioed mo'r Coblar Coch yn chwerthin fel hyn o'r blaen.
Peidiodd â'r clowtio. "Beth yw'r mater ar y dyn?" ebe hi, dan fynd i nôl cannwyll. Daeth yn ei hôl yn y man, a beth a welai ond Sion y Foty yn cynnal ei ochrau ac yn chwerthin onid oedd bron hollti ar ei draws, a'r Coblar Coch yn sefyll yn grynedig a gwenu'n ddigalon