y tu ôl iddo. Ac yr oedd chwerthin Sion yn heintus. Torrodd y Coblar Coch, yntau, i chwerthin, ac yna'r wraig, hithau. A chwerthin y buont nes i boenau Sion, oherwydd y clowtio, ddarfod.
"Yn wir," ebe'r wraig, wedi llawenhau trwyddi, "dyma'r tipyn chwerthin cyntaf a fu yn y tŷ yma ers misoedd. Ddyn bach, i ble'r ydych yn mynd?" "Adref i'r Foty heno," ebe Sion, "ac i Lundain bore yfory."
Peidiwch â thrafferthu mynd yn ôl i'r Foty heno, ac yn ôl wedyn bore yfory am y trên, a ninnau'n byw gymaint nes i'r stesion. Cewch aros yma heno â chroeso," ebe'r wraig.
Yr oedd Sion mor falch o'r cynnyg, oni ddechreuodd wylo'n hidl.
"Wrth gwrs," ebe'r wraig, o'i weld felly, "onid ydych amaros, wel, allan â chwi."
Dychrynodd Sion wrth feddwl ei fod i'w siomi o lety noson wedi'r cwbl, nes dechreu ohono chwerthin wedyn. Wel, 'dawn i byth o'r fan yma," ebe'r wraig wrtho, wrth ei weld yn chwerthin, "ond y mae'n un difyr hefyd."
Ac aros yno, er mwyn bod yn barod am y trên fore drannoeth, a wnaeth Sion y Foty y nos honno. Bore drannoeth cododd y wraig, a gwnaeth frecwest i Sion, a chychwynnodd ef am y trên. Cyn bo hir gwelai Sion yn dyfod yn ei ôl dan chwerthin.
Beth sy'n bod?" ebe hi mewn syndod mawr.
"Y trên sydd wedi mynd," ebe Sion.
"'Dawn i byth o'r fan yma," ebe'r wraig, "ers pryd?"
"Ers hanner awr," ebe Sion, dan dorri allan i chwerthin wedyn.