VI
Dacw mam yn dyfod
Wrth y garreg wen,
Ymenyn yn ei ffedog,
A blawd ar ei phen;
Y fuwch yn y côr
Yn brefu am y llo,
A'r llo yn y gornel
Yn canu banjo.
•••••
Bachgen da ydi Dafydd,
Yn gwisgo sgidiau newydd,
Cadw'r hen rai dan yr ha,—
Bachgen da ydi Dafydd.
"WEI," ebe Sion y Foty dan chwerthin, gan mor ddi-galon ydoedd, am iddo golli'r trên eto, "nid oes dim i'w wneuthur ond mynd yn ôl i'r Foty, gan nad ydyw'r wraig ddim ar dop y goeden chwaith. Ond byddant yn methu â deall yn y Foty beth a ddaeth trosof, a hwythau'n meddwl fy mod yn Llundain. Efallai mai'r peth goreu fydd llithro i'r ysgubor, a chysgu yn y gwair tros y Sul."
"Wel, Sion bach," ebe'r Coblar Coch, "a wyt yn meddwl y medri fynd dy hun, neu a garet ti i mi ddyfod i hebrwng tipyn arnat? Ni allaf ddyfod ymhell, ychwaith, canys y mae'n rhaid i mi lynu wrth fy ngwaith heddyw."
"Colled fawr yw colli'r trên, a cholli'r wraig ar dop y goeden yn y fargen," ebe Sion, gan gychwyn dan hanner chwerthin. Ac aeth y Coblar Coch i'w hebrwng rhag iddo dorri ei galon. Nid oedd fawr o ddim i'w gael ganddo ond chwerthin, er bod y Coblar Coch yn ceisio'i ddiddanu trwy ei holi am bopeth dan haul. Ac