Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymysg pethau eraill, gofyn iddo a oedd ganddo ddigon o arian i brynu pytatws i'r wraig, heb sôn am bethau eraill, pe digwyddai ei chael, ac yntau heb fod yn ddim ond gwas ffarm.

Sylwai'r Coblar Coch ers meityn fod traed Sion yn fwy aflonydd nag y gellid disgwyl i draed hen was fod, o gerdded yn unig. A chyn i'r Coblar Coch fedru gofyn dim iddo, torrodd Sion i ddawnsio. A dal i ddawnsio a wnaeth nes bod y chwys yn disgyn oddiwrtho fel cawod o law, a throi'r slot eira o dan ei draed yn ddwfr. A chan fod y dwfr hwnnw'n toddi mwy o eira, a'r dwfr mwy wedyn yn toddi eira mwy, bu raid i'r Coblar Coch fynd i ben y clawdd rhag boddi.

"Wel," ebe'r Coblar Coch wrtho mewn dychryn o ben y clawdd, "Sion bach, beth sy'n bod? A wyt ti'n iach?"

Yn lle ateb, y cwbl a wnaeth Sion oedd dal i ddawnsio a chwerthin (er ei fod erbyn hyn at ei hanner mewn dwfr gan chwys a slot eira toddedig), ac estyn bys at adeilad ar ben yr allt heb fod ymhell o fin y ffordd â thomen dail o'i flaen. Ni welai'r Coblar Coch ddim arbennig yn yr adeilad. Ond o wrando'n astud, clywai sŵn fel rhywun yn canu offeryn cerdd yn dyfod ohono, a sŵn canu bas isel yn un ag ef.

Estyn bys yr oedd Sion, a throi a throi a dawnsio fel chwrligwgan. Ac fel y troai a dawnsio deuai'n nes nes i'r adeilad o hyd. A'r Coblar Coch yn ei ddilyn ar hyd pen y clawdd, mewn braw, gan ofni ei fod yn dyrysu. Pan oeddynt yn ymyl yr adeilad, yr oedd y ffordd yn ddigon sech i'r Coblar Coch anturio oddiar ben y clawdd, a daeth i lawr. Rhoddodd bachgen bochgoch, braf, ei ben allan.