"Diolch byth," ebe Sion, "neu buaswn wedi dawnsio i farwolaeth. Rhaid i mi ddawnsio lle bo canu offeryn."
"Pam?" ebe'r bachgen yn chwerw, gan geisio hel gwynt i'r llo â'r banjo.
"Am fy mod yn ysmala wrth natur," ebe Sion. "Wel, dos allan o glyw," ebe'r bachgen, "o achos y mae'n rhaid i mi roddi'r banjô yn ôl i'r llo i'w dynnu o'i lewyg, neu bydd yn sicr o farw, a'r fuwch hyd farw yn atal ei llaeth."
"Pam?" ebe Sion.
"Am mai dyna'r unig ffordd y gall fyw," ebe'r bachgen. "Ac y mae'n rhaid i'r fuwch gael brefu wrth ei glywed, neu y mae'n sicr o atal ei llaeth. Ni fedr beidio."
Aeth y bachgen i roddi'r banjô i'r llo wedyn, a Sion yn rhedeg am ei fywyd allan o glyw, rhag iddo orfod ei ddawnsio'i hun i farwolaeth.
Dyna'r canu a'r brefu'n dechreu wedyn, a'r bachgen allan o'r côr gyda'r Coblar Coch. Eithr yn lle cerdded y ffordd aeth y bachgen yn syth trwy'r ffos, ac ar draws y domen.
"Tyrd allan oddiyna," ebe'r Coblar Coch, "rhag gwlychu dy draed."
Pwyntiodd y bachgen at ei esgidiau, a chwarddodd gan fynd ymlaen ar draws y domen. Edrychodd y Coblar yn syn arno,—
"Aros di," ebr ef wrtho, dan edrych ar ei esgidiau, "y mae rhywbeth yn dywedyd wrthyf y dylwn dy adnabod. Onid ti a fu acw am bâr o esgidiau newydd yn ddiweddar? Os felly, ti yw'r Dafydd sy'n gwisgo esgidiau newydd yn y gaeaf a chadw yr hen rai tan yr haf."