"Dyma'r dyn iti i'r dim," ebe'r bachgen.
Yn y pellter arhosai Sion amdanynt. Ac ymhellach fyth yr oedd gwraig yn dyfod tuag atynt.
Aroshasant yno i siarad am ysbaid, a Sion yn methu â deall paham na fedrai'r llo fyw heb fanjô. Wedi i'r Coblar Coch a Dafydd gyrraedd ato, dechreuodd Sion holi ynghylch y peth.
Am yr un rheswm ag y byddet tithau farw pe digwyddet ddal y trên," ebe Dafydd.
"Marw?" ebe Sion yn welw.
"Ie," ebe Dafydd, "oni ddywedodd y dyn a wnaeth y pennill ac a'th osododd ynddo dy fod i golli'r trên?" Do," ebe Sion.
"Wel," ebe Dafydd, "yr amod iti fyw yw trwy weithio allan ddymuniadau'r dyn hwnnw, neu fe ddinistrir y pennill. Ac os dinistrir y pennill, ni byddi dithau mewn bod. Canys o'r pennill y daethost."
Edrychodd Sion o'i amgylch yn hurt, ni ddeallai'r pethau hyn er iddo eu clywed o'r blaen. Cododd ei olwg a gwelodd drachefn y wraig a ddeuai tuagatynt.
"'Dawn i byth o'r fan yma," ebr ef, "nid yw'r wraig acw ddim nes."
"Nag ydyw, debyg iawn," ebe Dafydd, a ymddangosai wrth ei fodd yn gosod y ddeddf i lawr ynglŷn â'r pethau hyn.
"Pwy ydyw?" ebe'r Coblar Coch, gan fod Sion wedi synnu gormod i ddywedyd dim.
"'Mam,'" ebe Dafydd.
"Dy fam di?" ebe'r Coblar Coch.
"Ie, a mam pawb, a phob peth," ebe Dafydd, "hi ydyw 'mam', ac ni fedr neb ei galw yn ddim arall."
"Nid fy mam i, yn sicr ddigon," ebe'r Coblar Coch.