"A fuost ti mewn trên rywdro?" ebe Dafydd. "Naddo," ebe Sion yn swil, "ni fedraf byth lwyddo i'w ddal, fel y gwyddost."
"Maddeu i mi am gyffwrdd man tyner ar dy deimladau," ebe Dafydd, "ond ni feddyliais ddim ar y pryd. Nid wyf i byth yn methu â gwneuthur dim. Gwnaf bopeth fel y dylai fod—esgidiau newydd yn y gaeaf, a chadw yr hen rai dan yr haf. Dyna paham yg elwir fi'n fachgen da. Trwy i mi fod yn fachgen da y medrodd y dyn wneuthur y pennill, oherwydd y mae fy enw—Dafydd—yn odli â 'newydd,' a 'da' â 'ha.' A phe bawn yn fachgen drwg, byddai popeth ar ben, oherwydd nid yw'r gair 'drwg' yn odli â 'ha,' a dyna ddinistrio'r pennill. Y peth hawddaf a fu erioed yw i mi fyw yn ôl y pennill a ddaeth â mi i fod, ac nid oes dim anhawster, felly, i mi fod yn ddedwydd. Pobl iawn ydyw'r dynion a wnaeth y penillion. Ond sôn yr oeddym am 'mam.' Oni ddeliaist y trên, buost yn dawnsio, onido?"
"Do, y funud yma," ebe Sion.
Gwna hynny'r tro," ebe Dafydd. "Wedi iti ddawnsio a throi ymddengys y ddaear fel pedfai'n dyfod ymlaen, ond nid ydyw'n symud dim. Wedi cael gafael ar y syniad yna y mae 'mam.' Ac am hynny ymddengys i bawb fel pedfai'n dyfod yn nes. Ond wrth y garreg wen y mae hi o hyd."
"O," ebe Sion yn ddyryslyd.
Yr oedd y pethau hyn oll yn glir iawn i Ddafydd, canys yr oeddynt wrth ei fodd.
"Beth yw'r beichiau acw sydd ganddi?" ebe'r Coblar Coch.