Ar hyn, gwelent Sion yn dyfod yn y pellter dan frasgamu'n araf. Yn hollol sydyn, dechreuodd ddawnsio a throi a throsi.
"Y mae'n dechreu dyfod i sŵn y banjo," ebe'r Coblar Coch, "gwell i ni fynd i'w gyfarfod, neu bydd wedi ei ddawnsio'i hun i farwolaeth. Ac at hynny y mae hi'n rhy oer iddo chwysu llawer heddyw."
"Os dawnsia'i hun i farwolaeth, ni bydd chwysu tipyn yn rhyw lawer o ddrwg iddo," ebe Dafydd yn herllyd.
Ni ddywedodd y Coblar Coch air, ond cychwynnodd i gyfarfod Sion, a Dafydd yn ei ddilyn. Pan gyrhaeddwyd ato, aethant ymlaen a Sion yn troi'n ôl gyda hwy, a dal i ddawnsio a throi a throsi, nes mynd o sŵn y banjo. Yna llonyddu.
"Sut y mwynheaist y daith i Lundain?" ebe Dafydd wrtho, â'r un wên yn chwarae ar ei wyneb.
Eisteddodd Sion ar garreg ar ochr y ffordd, a chwerthin nes ei fod bron wedi colli arno'i hun. Pan lonyddodd, dywedodd wrth Ddafydd, heb godi'i ben,—
"Collais y trên."
Hen dro," ebe Dafydd dan wenu, "O faint?"
"O hanner awr," ebe Sion, "ond yn sicr ddigon mi dreiaf eto ar y cyfle cyntaf."
Gwnei, mi wn," ebe Dafydd, "ac fe'i colli eto."
"Ar y ffordd i foddi Miwriel yr wyf innau," ebe'r Coblar Coch yn ddigalon, "nid ydwyf innau am ildio."
Bu distawrwydd am beth amser, a'r tri'n edrych o'u hamgylch, a Dafydd yn gwenu fel o'r blaen.
"Oni charech ill dau fod fel myfi?" ebe Dafydd wrthynt yn y man.
"Bod fel tydi, sut?" ebe'r Coblar Coch.