"Yn llwyddo i wneuthur yr hyn a ddywed y pennill,— gwisgo esgidiau newydd, ac wrth ei fodd yn y gwaith," ebe Dafydd.
"Ydyw, y mae hi'n braf ar rai pobl," ebe Sion, "gobeithio na theimli byth fel arall."
Ar hyn, sylwodd Sion ar 'mam' yn y pellter yn dyfod wrth y garreg wen, ymenyn yn ei ffedog a blawd ar ei phen.
"Ac yn yr un fan y mae hi o hyd," ebe Sion.
"Ie," ebe Dafydd, "ymhle arall y disgwyliet ei chael? "
"Awn ati," ebe'r Coblar Coch, "i gydymdeimlo â hi."
"Ni ellwch byth fynd yn nes ati," ebe Dafydd, "ac nid oes arni eisiau cydymdeimlad, y mae hi'n hollol ddedwydd."
"Pam?" ebe Sion.
"Am ei bod, fel finnau, yn llwyddo i wneuthur y gwaith a dorrwyd allan iddi," ebe Dafydd, dan dorsythu.
"Paid â gwrando arno, tyrd yn dy flaen," ebe'r Coblar Coch wrth Sion, wedi glân wylltio.
A chychwyn a wnaeth y Coblar Coch a Sion, gan benderfynu mynd i ymyl 'mam' er gwaethaf popeth. Ond fel yr aent ymlaen, gwelent ei bod hi'n dal yn yr un pellter oddiwrthynt o hyd. Ymlaen ac ymlaen yr aethant, a Dafydd yn eu dilyn o hirbell, dan eu gwawdio.
Safasant wedi teithio'n hir, ac esboniodd Dafydd iddynt fod mynd ar ôl 'mam' fel mynd ar ôl gwaelod pont law, na waeth pa mor bell y dilynech hi, bod gwaelod y bont yn dal yr un pellter oddiwrthych o hyd.