Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un rhyfedd iawn yr olwg arno oedd yr un a ddeuai tuagatynt, mor rhyfedd oni safodd y tri i edrych arno am y mwyaf synllyd.

Bob hyn a hyn safai'r un a ddeuai i'w cyfarfod, ac edrychai ar y wal, a rhwbiai hi'n garuaidd fel rhwbio ci. Ac ni chymerai ddim sylw o gwbl o'r gwrych a'r goedwig braf ar y dde iddo. Yna dyfod ymlaen ychydig, a sefyll i edrych wedyn ar y wal a'i rhwbio'n garuaidd. Yna dyfod ymlaen wedyn, ac fel y neshai, gwelent nad sefyll i edrych ar y wal, yn unig, a wnai, a'i rhwbio, ond nodio arni fel pedfai'n hen ffrind iddo.

"Pwy ydyw, tybed?" ebe Sion wrth y Coblar Coch a Dafydd, wedi ei syfrdanu ormod i fedru na dywedyd na gwneuthur dim mwy.

"Ni wn i ar wyneb y ddaear," ebe Dafydd. A'r Coblar Coch yn rhy ddyryslyd, a rhy brysur yn tawelu Miwriel, i gymryd rhan bellach yn yr ymgom.

Rhywbeth rhwng bachgen a llanc ydoedd yr un dieithr. O dipyn i beth daeth atynt. Safodd i edrych arnynt, a hwythau'n hollol lonydd, heb symud na bys na bawd, ond bod y Coblar Coch â'i ddwylo o'r tu ôl yn ceisio tagu Miwriel yn dawel, er mwyn iddi gadw yn ddistaw. Ac yr oedd rhyw arswyd arnynt am fod yr un dieithr yn edrych mor rhyfedd. Wedi syllu arnynt am beth amser,—

"Wel?" ebr ef wrthynt. Nid atebodd neb yr un gair yn ôl,—dim ond edrych yn syn a llonydd arno.

"Wel?" ebr ef wedyn.

Eithr nid atebodd yr un ohonynt yr un gair iddo.

"Gwal eto, myn gafr," ebr ef, "a minnau'n meddwl mai dynion oeddynt."