"Beth a ddywedaist?" ebe Wil yn y man, gan edrych i'r gongl honno o hyd.
"Wel, wel," ebe rhywun, mewn rhyw hanner cyfarthiad a hanner siarad, a oedd yn fwy o gwynfan na dim arall.
Aethant ill tri gam ymhellach gyda'r gwrych, er mwyn cael golwg well ar bethau.
Fflachiai llygaid Wil,—
"Ai dywedyd fy ngair i a wnaethost?" ebr ef, wrth yr un a oedd o'r golwg.
Ac at y gongl ag ef, â'i ddyrnau yng nghau. Aethant hwythau ymlaen ar hyd y ffos am dipyn, a dringo'r clawdd, ac yna edrych trwy'r gwrych i weld pwy oedd yno.
A phwy oedd yno ond ci, neu'n fwy cywir ffram ci, yn edrych mor wan onid oedd yn rhaid iddo bwyso yn erbyn y wal i fedru ysgwyd ei gynffon. Safai Wil i edrych arno â'i ddyrnau yng nghau. A thyngai Dafydd fod y ci'n gwenu'n ddireidus ar Wil, er gwaethaf ei wendid. Sut bynnag, gwnaeth rhywbeth i Wil wylltio'n fwy o lawer. Camodd yn ôl fel pedfai am gymryd ras i roddi cic iddo,—
"Pwy a ddywedodd fy ngair i?" ebr ef o'r pellter.
"Beth yw dy air di?" ebe'r ci.
'Beth yw fy ngair i, wir?" ebe Wil, gan ddynesu'n araf a bygythiol, "y gair 'WEL' debyg iawn. Ac ni wiw ei ddywedyd ond wrth wal, ac nid oes neb i'w ddywedyd ond myfi."
Wel, wel," ebe'r ci, mewn hanner ochenaid, heb gymryd sylw, oherwydd ei wendid, o'r hyn a ddywedai Wil.