Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Snel. Collwyd ef ganddynt am ennyd, ond wedi mynd ymlaen am dipyn, daethant o hyd iddo'n pensynnu uwchben tipyn o flew a lynai wrth fonyn eithinen. Ac ymddengys bod y blew wedi deffro'i ddychymyg, canys clywent ef yn siarad fel hyn,—

"Wel, wel," ebr ef rhyngddo ag ef ei hun, dyma flew. Bu'r blew yma unwaith ar groen, a'r croen am gwnhingen, a'r gwnhingen yn sefyll yn y fan yma." Edrychodd ar y lle y dylai'r gwnhingen fod yn sefyll arno. Ac y mae'n rhaid ddarfod iddo weld rhith cwnhingen o'i flaen, canys rhoddodd sbonc â'i holl egni i'r fan lle dylai'r gwnhingen fod ynddo, ac fe'i cafodd ei hun yn gorwedd yn yr eithin. Llyfodd ei wefusau a chollodd ddeigryn.

Yn clywed sŵn, trodd ei ben a gweled y Coblar Coch, Sion y Foty, a Dafydd. Fe'i llusgodd ei hun o'r eithin a dyfod atynt gan ei gynnal ei hun yn erbyn bonion coed. A chlywai'r tri dyn hefyd ryw siffrwd symud yn y pellter, —siffrwd a glywsent unwaith o'r blaen.

Dyma'r coesau y soniai Wil amdanynt," ebe Ci Jac Snel, gan ddynesu atynt.

Safodd y tri yn chwys trostynt gan ofn, er bod eira ar y ddaear, canys gwyddent na allent wneuthur dim os ymosodai arnynt, am nad ymladd â chi oedd y gwaith a roddwyd iddynt, ond ceisio boddi cath, colli'r trên, a gwisgo esgidiau newydd. O leiaf, yr oeddynt yn barod i gredu hynny y munudau hyn. A gwyddent yn dda at hynny fod golwg ar fwyd yn rhoddi nerth mawr yn nannedd ci teneu, heblaw ei wneuthur yn gynddeiriog.

Ciliasant yn ôl yn araf, a'r ci'n ymlusgo o gam i gam tuagatynt. A chilio'n ôl y buont gan anghofio'r sŵn