Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IX

Mae geneth deg, benfelen,
Yn byw ym Mhen y Graig;
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno i mi'n wraig:
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.


Ifan bach a minne
Yn mynd i Lundain glanme;
Mae'r nos yn hir, a'r ffordd ymhell,
Gwell i ni aros gartre.


Hen Fenyw Fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Unarddeg am ddimai,
A thriarddeg i mi.

Bu Dafydd yn ddedwydd iawn am fisoedd wedyn. A meddyliai'r byd o'r dyn a wnaeth y pennill a roddai bâr o esgidiau newydd iddo ef. A bu'n ddedwydd iawn nes cyfarfod ohono â'r Eneth Deg Benfelen. Dyfod yn ôl o'r côr yr ydoedd, wedi bod yn gofalu am y fuwch a'r llo. Yr oedd yn noson braf iawn, a'r haul yn cochi'r awyr wrth fachludo, a'r adar bach yn canu, a'r gôg hithau'n canu ar bren yn y pellter wrth y garreg wen lle'r oedd mam' yn dyfod. Ac wyneb 'mam' yn disgleirio yn yr haul, gan ei bod yn chwysu mwy nag arfer yn y gwres hwn, wrth ddyfod wrth y garreg wen. Pwy a welai Dafydd yn croesi'r cae i'w gyfarfod ond yr Eneth Deg Benfelen oedd yn byw ym Mhen y Graig, a basged ar ei braich, yn mynd ag wyau ac ymenyn i'r siop. Nid oedd hi wedi sylwi arno, a chanai tros y wlad. Yr oedd ef wedi clywed am ei medr ers tro,—fel y gallai