Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hen Ffrindiau.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobi a golchi a thrin y tamaid bwyd i'r dim. Eithr nid oedd hynny wedi effeithio arno nes iddo weld ei gwallt. Medrai ei fam bobi a golchi a thrin y tamaid bwyd gystal â neb. Gweld gwallt yr eneth a doddodd Ddafydd yn llwyr, fel na allai feddwl am ddim arall. Yr oedd ei gwallt yn ymddwyn yn union fel y dylai gwallt o'i liw ymddwyn bob amser,—disgleiriai yn yr haul, ac yr oedd fel aur, a phethau felly. Aeth Dafydd yn araf i gyfarfod â'r eneth, heb gymryd arno ei fod yn ei gweld, ac eisteddodd ar y gamfa i wrando ar y gôg a gwylio 'mam' yn dyfod wrth y garreg wen.

Clywodd besychiad ysgafn yn ei ymyl. Yr Eneth Deg Benfelen oedd yno, ag arni eisiau mynd dros y gamfa, ac yn rhy swil i ofyn iddo, a phesychai er mwyn galw ei sylw ef ati. Trodd Dafydd tuagati'n ddidaro, ond gwridodd at ei glustiau, a gwridodd yr eneth, hithau. A dyna lle buont yn hir yn edrych ar ei gilydd, —yr eneth wedi anghofio bod arni eisiau mynd dros y gamfa, a Dafydd wedi anghofio ei fod yn eistedd ar y gamfa. Y diwedd fu i Ddafydd gael digon o nerth i ddywedyd wrthi fod y tywydd yn braf a bod y gôg yn canu. Dywedodd hithau wrtho yntau ei bod yn cydweld ag ef fod y tywydd yn braf a bod y gôg yn canu. Gafaelodd Dafydd yn ei basged pan gofiodd ymhle yr oeddynt, a chododd hi tros y gamfa, a helpodd yr Eneth Deg Benfelen, hithau, tros y gamfa. Cyn ymadael â'i gilydd, yr oeddynt wedi addo cyfarfod wrth y gamfa y noson wedyn, ryw awr yn hwy, i wylio'r tywydd a gwrando ar y gôg, ac i sôn amdanynt. Ac yr oedd yn galanmai trannoeth.

Yr oedd Dafydd gartref yn gynharach nag arfer y noswaith wedyn. Ymolchodd nes bod ei wyneb yn